Public Affairs Specialist (1 year FTC)

Clock icon

Job details

Job reference

REQ000457

Date posted

08/07/2022

Application closing date

29/08/2022

Location

Cardiff

Salary

£38,433

Package

Hybrid working

Contractual hours

35

Basis

Full time

Job category/type

Advocacy and Campaigns

Public Affairs Specialist JD Welsh Aug 2022.pdf

Public Affairs Specialist (1 year FTC)

Job description
Os oes gennych brofiad o arwain a chyflawni strategaeth neu ymgyrch wleidyddol yng Nghymru, dyma gyfle gwych ichi ddefnyddio’ch sgiliau i achub ein planed. Ar hyn o bryd mae WWF Cymru yn dilyn rhaglen waith aml-flwyddyn i fynd i’r afael â newid hinsawdd, gwrthdroi colli natur a systemau bwyd cynaliadwy. Wrth i gynllun taliadau newydd gan y llywodraeth gael ei greu i ffermwyr, a gyda datblygiad cynllun carbon sero’r Llywodraeth a’r Bil Bwyd, mae’r flwyddyn o’n blaenau yn adeg dyngedfennol o ran ymgysylltu â byd gwleidyddiaeth yng Nghymru ar yr her driphlyg hon. Ymunwch â ni fel Arbenigwr Materion Cyhoeddus a defnyddiwch eich arbenigedd ym maes materion cyhoeddus i ddylanwadu ar system wleidyddol Cymru a’r rhanddeiliaid perthnasol.

Fel Arbenigwr Materion Cyhoeddus byddwch yn canolbwyntio ar gefnogi’r broses o newid i system fwyd gynaliadwy. Bydd y gwaith hwn yn golygu datblygu ein strategaeth wleidyddol ar gyfer amaethyddiaeth, defnydd tir a bwyd, yn ogystal ag adrodd yn erbyn targedau cyflawnadwy allweddol. Byddwch yn adeiladu rhwydwaith o ddylanwadwyr gwleidyddol a fydd yn siarad dros ein blaenoriaethau ac yn cynorthwyo i gyflawni prosiectau hefyd. Chi fydd yn ein cynrychioli ni mewn digwyddiadau allweddol ac mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid gwleidyddol lefel uchel. Byddwch hefyd yn creu briffiau, blogiau a chynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ennyn diddordeb ac yn rhoi cyngor ar gyfer datblygu polisi. Bydd y gallu i ddarparu cyfres o dactegau creadigol sy’n ennyn diddordeb, o styntiau i weminarau, er mwyn cefnogi’r amcanion cyffredinol yng Nghymru, yn bwysig i’r rôl hon.

Yn arbenigo mewn arwain a chyflawni strategaethau ac ymgyrchoedd gwleidyddol llwyddiannus, rhaid ichi feddu ar wybodaeth fanwl o’r Senedd a’r byd gwleidyddol yng Nghymru. Byddwch wedi arfer â drafftio cyfathrebiadau gwleidyddol a goruchwylio rhagolygu, rheoli ac adrodd cyllidebol. Byddwch yn gallu mapio ac adeiladu rhwydweithiau cadarn yn effeithiol, ac adeiladu perthnasoedd cadarn â rhanddeiliaid gwleidyddol dylanwadol hefyd. Byddwch hefyd yn gyfforddus yn cydgysylltu rhanddeiliaid allanol ac adnoddau mewnol er mwyn cyflawni canlyniadau. Wedi rheoli prosiectau’n llwyddiannus, byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a chydgysylltu cadarn hefyd. Yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o faterion amgylcheddol yng Nghymru, mewn perthynas ag amaethyddiaeth, defnydd tir a/neu’r system fwyd.

Os ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch achub ein planed ac yn gallu dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol lefel uchel yng Nghymru, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi. Ewch i’n gwefan trwy glicio ar y ddolen, cwblhewch y cofrestriad ar-lein a chyflwynwch gopi o’ch CV cyfredol gyda’r Datganiad Ategol i nodi beth sy’n golygu y byddwch yn cyd-asio’n dda gyda ni.

Mae pob rôl yn WWF yn agored i geisiadau gan bob rhan o’r gymdeithas. Credwn ym mhotensial pawb heb ystyried; rhyw, hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig, gallu corfforol gwahanol, strwythur teuluol, ffactorau economaidd-gymdeithasol, oed, cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth, partneriaeth briodasol, ddomestig neu sifil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, neu unrhyw agwedd arall sy’n golygu mai chi yw chi. Yma yn WWF, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant ymwybodol sy’n helpu i feithrin ethos o berthyn, cysylltiad a nod cyffredin. Yn ein barn ni, po fwyaf amrywiol ydym ni, gorau y byddwn ni; mae hyn yn ein dwyn ynghyd ac yn ein grymuso i ddatblygu, ymgysylltu ac ysbrydoli; ac yn hollbwysig, i helpu i greu dyfodol lle gall pobl fyw mewn cytgord â natur.

Mae ein polisïau a’n buddion yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn bwysig i bobl allu cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallu dod â’u ‘hunan llawn’ i’r gwaith.

Mae ar ein byd eich angen chi mwy nag erioed o’r blaen. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r byd ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n teimlo’n angerddol ynghylch ei gwneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd dinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae arnom angen ichi ymuno yn y frwydr dros ein byd.

If you are experienced in leading and delivering a political strategy or campaign in Wales, this is a tremendous opportunity to use your skills to save our planet. WWF Cymru is currently pursuing a multi-year work programme to tackle climate change, nature loss and sustainable food systems. With the creation of a new government payment scheme for farmers, development of the Government’s zero carbon plan and the Food Bill the year ahead is a critical time for engaging politics in Wales on this triple challenge. Join us as Public Affairs Specialist and use your public affairs expertise to influence the Welsh political system and relevant stakeholders.

As Public Affairs Specialist you will focus on supporting the transition to a sustainable food system. This will involve developing our political strategy for agriculture, land-use and food as well as reporting against key deliverables. You will build a network of political influencers who will speak up for our priorities and support project delivery too. You will act as our representative at key events and in meetings with high level political stakeholders. You will also create engaging political briefings, blogs and social content, and provide advice on policy development. Important will be the ability to deliver a suite of creative and engaging tactics, from stunts to webinars, to support overall objectives in Wales.

Expert at leading and delivering successful political strategies and campaigns, you must have in-depth knowledge of the Senedd and the political landscape in Wales. You will be used to drafting political communications and overseeing budgetary forecasting, management and reporting. You will be effective at mapping and building strong networks and relationships with influential political stakeholders too. You will also be comfortable coordinating external stakeholders and internal resources to deliver results. Successful at managing projects, you will possess strong communication, influencing and coordinating skills too. Ideally, you will have a strong understanding of environment issues within Wales, relating to agriculture, land use and / or food system.

If you are passionate about saving our planet and able to influence high-level political decision-making in Wales , we would love to hear from you. Please visit our website via the link and complete the online registration and submit a copy of your up-to-date CV with the Supporting Statement highlighting what makes you a good fit for us.

Every role at WWF is open to applications from all sections of society. We believe in the potential of everyone regardless of; sex, race, religion or belief, ethnic origin, different physical ability, family structure, socio-economics, age, nationality or citizenship, marital, domestic or civil partnership, sexual orientation, gender identity, or any other aspect that makes you, well you. Here at WWF, we are committed to conscious inclusion that helps cultivate an ethos of belonging, connection and shared purpose. We believe that the more diverse we are the better we become; this brings us together and empowers us to develop, engage and inspire; and critically to help build a future where people can live in harmony with nature.

Our policies and benefits reflect the importance of people being able to have a good work-life balance and being able to bring their ‘full self’ to work.

Our world needs you like never before. We are the first generation to know we are destroying the world and we could be the last that can do anything about it. We are looking for people who are passionate about making it politically, socially and economically unacceptable to destroy our planet’s natural resources. We need you to join us in the fight for our world.