Volunteer Development Officer - Wales
THE ROLE
- This is a key role in our Wales Communication & Engagement team which works with other Volunteer Development Officers across the Trust to help deliver on the volunteering strategy for the region.
- The role will support compliance including record keeping, induction and training, as well as develop new opportunities based on regional priorities and deliver a range of communication and face to face activities to create a safe and positive volunteering experience.
- You will run a range of activity to develop effective communication methods including writing articles, delivering events, supporting peer to peer support and shared learning so volunteers are engaged and feel valued.
- You are responsible for being the link between the National Volunteering Team and regional volunteer managers to ensure that managers feel supported and volunteers have a meaningful, safe and enjoyable experience.
- You will lead on regional recruitment of existing and new roles, in line with regional priorities to ensure volunteer roles are appropriate and support the needs of the Woodland Trust.
- This role is based in Wales and will require the successful candidate to travel around the country.
- This is a 3 year fixed term contract, 22.5 hours per week
- This role may require an enhanced DBS check as part of our pre-employment checks.
THE CANDIDATE
- Hands on experience working with volunteers and volunteer managers including recruitment, training and managing volunteers with positive outcomes.
- Experience in working across a range of teams at a regional level to support existing and develop new volunteering opportunities, ensuring the support of volunteering to undertake activities in a positive, fun and safe way.
- You’ll have experience in developing new volunteering opportunities in line with regional and national strategies.
- You’ll have a collaborative approach, with the ability to work with multiple teams, building relationships with both internal and external stakeholders effectively.
- You’ll know how to deliver effective events including promotion, risk assessments for indoor and outdoor environments.
- Strong communication skills, both written and verbally being able to liaise with internal and external stakeholders, especially volunteers using a variety of methods to suite the audience.
- This role does require regular travel around Wales. A full UK driving licence is required.
Our Organisational Nature enables us to better understand what it means to be part of the Woodland Trust, empowering us to make an impact, every day. We want you to be able to role model our values; ‘Grow Together’, ‘Focus’, ‘Explore’ and ‘Make it Count’ to ensure each of us plays our part in helping to protect, restore and create our woods and trees.
Benefits & Wellbeing: Joining our team means you'll be a big part of tackling environmental and climate issues. We take good care of our employees, offering support and training opportunities. We also offer:
- Enhanced Employer Pension
- Life Assurance
- Flexible & Hybrid Working Options
- Generous Annual Leave
- Enhanced Parental Pay
- Employee Assistance Programme
Commitment to Diversity & Inclusion: The Woodland Trust embraces diversity and inclusion. We want our team to reflect the UK's diverse community. We support people from all backgrounds to apply, especially those who are under-represented.
Application Advice: Even if you don't meet every requirement of the role, we would encourage you to apply. Your enthusiasm for the environment and our core values—Grow Together, Explore, Focus and Make it Count—are what matter most. We also keep our candidates’ personal details hidden from the hiring managers, so they do not see your CV until shortlisting is completed. Make sure that your Personal Statement clearly shows your experience and passion for the role.
Apply Now: If you're ready to make a difference and grow with us, send in your application today. We might close the job opening early if we get a lot of applications, so it's a good idea to apply soon. We look forward to hearing from you and working together to make a positive impact on our planet.
Interviews will be held online via Microsoft Teams w/c 21st April.
Amdanom Ni: Y Woodland Trust (Coed Cadw yng Nghymru) yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU, sy’n ymroddedig i greu byd lle mae coed a choedwigoedd yn ffynnu er lles pobl a byd natur. Mae ein cenhadaeth yn cynnwys ymgysylltu ac ysbrydoli unigolion i gyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur drwy ddiogelu, adfer a chreu cynefinoedd coetir hanfodol.
Y SWYDD
- Mae hon yn swydd allweddol yn nhîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymru, sy’n gweithio gyda Swyddogion Datblygu Gwirfoddolwyr eraill ar draws yr Ymddiriedolaeth i helpu i gyflawni’r strategaeth wirfoddoli ar gyfer y rhanbarth.
- Bydd y swydd yn cefnogi cydymffurfiad, gan gynnwys cadw cofnodion, cynefino a hyfforddi, yn ogystal â datblygu cyfleoedd newydd yn seiliedig ar flaenoriaethau rhanbarthol a darparu amrywiaeth o weithgareddau cyfathrebu ac wyneb yn wyneb i greu profiad gwirfoddoli diogel a chadarnhaol.
- Byddwch yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i ddatblygu dulliau cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys ysgrifennu erthyglau, cynnal digwyddiadau, cefnogi dulliau cymorth gan gymheiriaid a dysgu ar y cyd fel bod gwirfoddolwyr yn cael eu cynnwys ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
- Chi sy’n gyfrifol am fod yn gyswllt rhwng y Tîm Gwirfoddoli Cenedlaethol a rheolwyr gwirfoddolwyr rhanbarthol i sicrhau bod rheolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod gwirfoddolwyr yn cael profiad ystyrlon, diogel a phleserus.
- Yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol, byddwch yn arwain y gwaith o recriwtio ar gyfer swyddi presennol a newydd yn rhanbarthol i sicrhau bod rolau gwirfoddolwyr yn briodol ac yn cefnogi anghenion Coed Cadw.
- Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yng Nghymru a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio o amgylch y wlad.
- Efallai y bydd y swydd hon yn gofyn am archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel rhan o’n gwiriadau cyn cyflogi.
YR YMGEISYDD
- Profiad ymarferol o weithio gyda gwirfoddolwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr, gan gynnwys recriwtio, hyfforddi a rheoli gwirfoddolwyr gyda chanlyniadau cadarnhaol.
- Profiad o weithio ar draws gwahanol dimau ar lefel ranbarthol i gefnogi cyfleoedd gwirfoddoli presennol a datblygu cyfleoedd gwirfoddoli newydd, gan sicrhau cymorth gwirfoddoli i ymgymryd â gweithgareddau mewn ffordd gadarnhaol, hwyliog a diogel.
- Bydd gennych brofiad o ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli newydd yn unol â strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
- Bydd gennych ddull cydweithredol, gyda’r gallu i weithio gyda nifer o dimau, gan feithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn effeithiol.
- Byddwch yn gwybod sut mae cynnal digwyddiadau yn effeithiol, gan gynnwys gwaith hyrwyddo, a llunio asesiadau risg ar gyfer amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored.
- Sgiliau cyfathrebu cadarn, ar lafar ac ar bapur, a gallu cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn enwedig gwirfoddolwyr sy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n addas i’r gynulleidfa.
- Mae’r swydd hon yn golygu teithio’n rheolaidd o amgylch Cymru. Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.
Mae ein Natur Sefydliadol yn ein galluogi i ddeall yn well beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o Goed Cadw, gan ein grymuso i gael effaith, bob dydd. Rydyn ni eisiau i chi allu bod yn esiampl o’n gwerthoedd; ‘Tyfu gyda’n Gilydd’, ‘Canolbwyntio’, ‘Archwilio’ a ‘Gwneud Gwahaniaeth’ i sicrhau bod pob un ohonom yn chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu, adfer a chreu ein coedwigoedd.
Manteision a Llesiant: Mae ymuno â’n tîm yn golygu y byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â materion amgylcheddol a hinsoddol. Rydyn ni’n gofalu’n dda am ein staff, gan gynnig cymorth a chyfleoedd hyfforddi. Rydyn ni hefyd yn cynnig y canlynol:
- Gwell Pensiwn Cyflogwr
- Yswiriant bywyd
- Opsiynau Gweithio Hyblyg a Hybrid
- Gwyliau Blynyddol Hael
- Gwell Cyflog Rhiant
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Ymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant: Mae Coed Cadw yn croesawu amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni am i’n tîm adlewyrchu cymuned amrywiol y DU. Rydyn ni’n cefnogi pobl o bob cefndir i wneud cais, yn enwedig y rhai sy’n cael eu tangynrychioli.
Cyngor ar Wneud Cais: Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni holl ofynion y swydd, byddem yn eich annog i wneud cais. Eich brwdfrydedd dros yr amgylchedd a’n gwerthoedd craidd – Tyfu gyda’n Gilydd, Archwilio, Canolbwyntio a Gwneud Gwahaniaeth – yw’r peth pwysicaf. Rydyn ni hefyd yn cadw manylion personol ein hymgeiswyr yn gudd oddi wrth y rheolwyr sy’n penodi, fel nad ydynt yn gweld eich CV nes bydd y rhestr fer wedi’i chwblhau. Gwnewch yn siwr bod eich Datganiad Personol yn dangos yn glir eich profiad a’ch brwdfrydedd dros y swydd.
Gwnewch Gais Nawr: Os ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth a thyfu gyda ni, anfonwch eich cais atom heddiw. Mae’n bosibl y byddwn yn mynd ati i gau'r broses ymgeisio yn gynnar os byddwn yn cael llawer o geisiadau, felly mae'n syniad da gwneud cais cyn gynted â phosibl. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi a gweithio gyda’n gilydd i gael effaith gadarnhaol ar ein planed.
Interviews will be held online via Microsoft Teams w/c 21st April.