Clock icon

The Woodland Trust is looking for an Estate Manager in our Wales team, to lead the Estate Team in managing a diverse and extensive woodland estate delivering for nature recovery and trees for all.

The Role:
  • The Estate Manager will be responsible and ensure that the Estate is managed to the highest professional standards and in accordance with the Woodland Trust’s management approach, making a significant contribution to the Trust’s wider strategy and objectives.
  • This role will manage a team of professional site and contract managers and be a member of the Wales Management Team, guiding and supporting the development and delivery of the Trust's work programme in Wales.
  • The Estate Manager will ensure that resources are allocated for maximum impact for our cause and will oversee a complex delivery programme of forestry, conservation, access and safety work.
  • Lead the management of the Trust's woodland estate across Wales and ensure that it is managed to the highest professional standards and in accordance with Woodland Trust's management approach, policies and standards. This includes ensuring compliance with UKWAS and FISA standards
  • A company car will be provided with this role

The Candidate:
  • You have an enthusiasm for the environment and share our core values-Grow Together, Explore, Focus and Make it Count.
  • You will be an experienced forester or land manager with knowledge and experience of native woodland management and ecology
  • You will have experience leading, developing and inspiring professional teams and managing complex work programmes and budgets
  • You will want to champion compliance and best practice in woodland management and health & safety on the Trust's Estate
  • You will understand how to prioritise for impact in relation to organisational strategy and take clear decisions
  • You’ll have a collaborative approach, with the ability to work with multiple teams, building relationships with both internal and external stakeholders effectively. You will be a strong influencer you will be confident in representing the Trust in dealings with woodland owners, farmers, landowners and stakeholders.
  • This role requires regular travel around Wales and UK. A full clean UK driving licence is required.
Benefits & Wellbeing: Joining our team means you'll be a big part of tackling environmental and climate issues. We take good care of our staff, offering support and training opportunities. We also offer:
  • Enhanced Employer Pension
  • Life Assurance
  • Flexible & Hybrid Working Options
  • Generous Annual Leave
  • Enhanced Parental Pay
  • Employee Assistance Programme

About Us: The Woodland Trust is the UK's leading woodland conservation charity and is dedicated to creating a world where trees and woods thrive for both people and nature. Our mission involves engaging and inspiring individuals to contribute toward tackling the nature and climate crisis through the protection, restoration, and creation of essential woodland habitats.

Commitment to Diversity & Inclusion: To achieve our vision of a world where woods and trees thrive for people and nature, we need to better reflect society and the communities we work in. All people, no matter their background, identity, ability, or circumstance, should benefit from trees.

People of colour and disabled people are currently under-represented across the environment and conservation sector. If you identify as a person of colour and/or disabled, we particularly encourage you to apply.
Please contact us to discuss any additional support or adjustments you may need to complete your application.

Application Advice: For fairness we keep our candidates’ personal details hidden from the hiring managers, so they do not see your CV until shortlisting is completed. Make sure that your Personal Statement clearly shows how your skills and knowledge link to the specifications in the job description and you share with us your passion for the role.

Apply Now: If you're ready to make a difference and grow with us, send in your application today. We might close the job opening early if we get a lot of applications, so it's a good idea to apply soon. If we do close the advert early, and you have an application in process, we will email you prior to closing to give you time to complete.

Interviews will be held via Microsoft Teams on the 8th and 9th May 2025.


Mae Coed Cadw yn chwilio am Reolwr Ystad yn ein tîm yng Nghymru i arwain Tîm yr Ystad i reoli ystad coetir amrywiol a helaeth sy’n darparu ar gyfer adfer natur a choed i bawb.

Y Swydd:
  • Bydd y Rheolwr Ystad yn gyfrifol ac yn sicrhau bod yr Ystad yn cael ei rheoli i’r safonau proffesiynol uchaf ac yn unol â dull rheoli Coed Cadw, gan wneud cyfraniad sylweddol at strategaeth ac amcanion ehangach yr Ymddiriedolaeth.
  • Bydd y swydd hon yn rheoli tîm o reolwyr contractau a safleoedd proffesiynol a bod yn aelod o Dîm Rheoli Cymru, gan arwain a chefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni rhaglen waith yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru.
  • Bydd y Rheolwr Ystad yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl ar ein hachos, a bydd yn goruchwylio rhaglen gyflawni gymhleth o waith coedwigaeth, cadwraeth, mynediad a diogelwch.
  • Arwain y gwaith o reoli ystad coetiroedd yr Ymddiriedolaeth ledled Cymru a sicrhau ei bod yn cael ei rheoli i’r safonau proffesiynol uchaf ac yn unol â dull rheoli, polisïau a safonau Coed Cadw. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cydymffurfiad â safonau UKWAS a FISA.

Yr Ymgeisydd:
  • Mae gennych frwdfrydedd dros yr amgylchedd ac rydych yn rhannu ein gwerthoedd craidd-Datblygu gyda’n Gilydd, Archwilio,
Canolbwyntio a Gwneud Gwahaniaeth.
  • Byddwch yn goedwigwr neu’n rheolwr tir profiadol gyda gwybodaeth a phrofiad o reoli coetiroedd brodorol ac ecoleg
  • Bydd gennych brofiad o arwain, datblygu ac ysbrydoli timau proffesiynol a rheoli rhaglenni gwaith a chyllidebau cymhleth
  • Byddwch eisiau hyrwyddo cydymffurfiad a’r arferion gorau ym maes rheoli coetiroedd ac iechyd a diogelwch ar Ystad yr Ymddiriedolaeth.
  • Byddwch yn deall sut mae blaenoriaethu er mwyn cael effaith mewn perthynas â strategaeth sefydliadol a gwneud penderfyniadau clir
  • Bydd gennych ddull cydweithredol, gyda’r gallu i weithio gyda nifer o dimau, gan feithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn effeithiol. Byddwch yn ddylanwadwr cryf a byddwch yn hyderus wrth gynrychioli’r Ymddiriedolaeth mewn perthynas â pherchnogion coetiroedd, ffermwyr, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid.
  • Mae’r swydd hon yn golygu teithio’n rheolaidd o amgylch Cymru a’r DU. Rhaid cael trwydded yrru lawn lân y DU.
Manteision a Llesiant: Mae ymuno â’n tîm yn golygu y byddwch chi’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i’r afael â materion amgylcheddol a hinsoddol. Rydyn ni’n gofalu’n dda am ein staff, gan gynnig cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi. Rydyn ni hefyd yn cynnig y canlynol:
  • Lefel Uwch o Bensiwn gan y Cyflogwr
  • Yswiriant Bywyd
  • Opsiynau Gweithio Hyblyg / Hybrid
  • Gwyliau Blynyddol Hael
  • Tâl Uwch i Rieni
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Amdanom Ni: Coed Cadw (Woodland Trust) yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU, sy’n ymroddedig i greu byd lle mae coed a choedwigoedd yn ffynnu er lles pobl a byd natur. Mae ein cenhadaeth yn ymgysylltu ac yn ysbrydoli unigolion i gyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur drwy ddiogelu, adfer a chreu cynefinoedd coetir hanfodol.

Ymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant: Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o fyd lle mae coedwigoedd a choed yn ffynnu er mwyn pobl a byd natur, mae angen i ni adlewyrchu cymdeithas a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddynt yn well. Dylai pob person, ni waeth beth fo’i gefndir, ei hunaniaeth, ei allu na’i amgylchiadau, gael budd o goed.
Ar hyn o bryd, mae pobl o liw a phobl anabl yn cael eu tangynrychioli ar draws y sector amgylcheddol a chadwraeth. Os ydych chi’n ystyried eich hun yn berson o liw a/neu anabl, rydyn ni’n eich annog yn benodol i gyflwyno cais.
Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gymorth ychwanegol neu addasiadau y bydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cais.

Cyngor ar Wneud Cais: Er mwyn bod yn deg, rydyn ni hefyd yn cadw manylion personol ein hymgeiswyr yn gudd oddi wrth y rheolwyr sy’n penodi, fel nad ydynt yn gweld eich CV nes bydd y rhestr fer wedi’i chwblhau. Gwnewch yn siwr bod eich Datganiad Personol yn dangos yn glir sut mae eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn cysylltu â’r manylebau yn y disgrifiad swydd a’ch bod yn rhannu eich angerdd am y swydd â ni.

Gwnewch Gais Nawr: Os ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth a datblygu gyda ni, anfonwch eich cais atom heddiw. Mae’n bosibl y byddwn yn mynd ati i gau'r broses ymgeisio yn gynnar os byddwn yn cael llawer o geisiadau, felly mae'n syniad da gwneud cais cyn gynted â phosibl. Os byddwn yn cau’r hysbyseb yn gynnar, a bod gennych chi gais ar ei hanner, byddwn yn anfon e-bost atoch cyn cau er mwyn rhoi amser i chi gwblhau eich cais.

Interviews will be held via Microsoft Teams on the 8th and 9th May 2025.