Policy and Advocacy Manager - Wales

Clock icon

About Us: The Woodland Trust is the UK's leading woodland conservation charity and is dedicated to creating a world where trees and woods thrive for both people and nature. Our mission involves engaging and inspiring individuals to contribute toward tackling the nature and climate crisis through the protection, restoration, and creation of essential woodland habitats.

THE ROLE
  • This is an exciting opportunity as we are looking for a Policy and Advocacy Manager who will be responsible for developing and directing the delivery of Coed Cadw programme of advocacy and campaigning work in Wales.
  • You will be responsible for developing relationships across broad policy-influencing audiences to achieve key policy outcomes in line with the Woodland Trust’s goals and objectives.
  • Responsible for ensuring the Trust have and are following integrated and focused influencing strategies to achieve our public policy goals.
  • Lead the Wales Policy and Advocacy team whilst integrating our policy and campaigning work across the wider Wales team, providing clarity of direction, inspiring our employees and building capabilities and skills, upholding and actively promoting the values and behaviours of the Trust.
  • Actively monitor, gather intelligence, understand and analyse relevant areas of Welsh policy and politics, acting on key opportunities. Collaborate with UK colleagues to ensure our policy and advocacy work is supported and aligned across the four nations and ensure consistent campaigning messages with the Trust’s wider communications and influencing strategies and plans.
  • This is a hybrid role with travel to the Cardiff office and around the UK as required.
THE CANDIDATE
  • This is a key role in our Wales team and for candidates to stand out, we are looking for experience of working within a policy & advocacy or political context.
  • Experience in shaping and implementing policy and advocacy or political strategies preferably in the environmental/voluntary sector, providing technical policy input and advice.
  • Knowledge of the Welsh Government and Senedd with a strong understanding of current environmental policy, conservation and land management issues. You’ll have awareness of current affairs and processes through legislation, policy and grants in the Welsh context.
  • Confident in building and developing partnerships with external and internal stakeholders, able to influence different audiences, to successfully change attitudes, behaviours and/or policy of key stakeholders.
  • Strong leadership skills with the ability to collaborate with a diverse range of teams and stakeholders to ensure the best development of strategies and policies.
  • Ability to analyse complex information and be able to communicate in effective ways for diverse audiences.
  • Understanding of different levers and approaches that can be used effectively to influence decision-makers.
  • This role is based in Wales and will require the successful candidate to undertake travel across Wales and the UK.

Our Organisational Nature enables us to better understand what it means to be part of the Woodland Trust, empowering us to make an impact, every day. We want you to be able to role model our values; ‘Grow Together’, ‘Focus’, ‘Explore’ and ‘Make it Count’ to ensure each of us plays our part in helping to protect, restore and create our woods and trees.

Benefits & Wellbeing: Joining our team means you'll be a big part of tackling environmental and climate issues. We take good care of our employees, offering support and training opportunities. We also offer:
  • Enhanced Employer Pension
  • Life Assurance
  • Flexible & Hybrid Working Options
  • Generous Annual Leave
  • Enhanced Parental Pay
  • Employee Assistance Programme

Commitment to Diversity & Inclusion: The Woodland Trust embraces diversity and inclusion. We want our team to reflect the UK's diverse community. We support people from all backgrounds to apply, especially those who are under-represented.

Application Advice: Even if you don't meet every requirement of the role, we would encourage you to apply. Your enthusiasm for the environment and our core values—Grow Together, Explore, Focus and Make it Count—are what matter most. We also keep our candidates’ personal details hidden from the hiring managers, so they do not see your CV until shortlisting is completed. Make sure that your Personal Statement clearly shows your experience and passion for the role.

Apply Now: If you're ready to make a difference and grow with us, send in your application today. We might close the job opening early if we get a lot of applications, so it's a good idea to apply soon. We look forward to hearing from you and working together to make a positive impact on our planet.
1st Interviews to be held via Teams on 7th & 8th January
2nd Interviews to be held in-person on 15th January

Ynglyn â Ni: Coed Cadw (y Woodland Trust) yw elusen cadwraeth coetiroedd fwyaf y DU sydd wedi ymroi i greu byd lle mae coed a choedwigoedd yn ffynnu ymhlith pobl a natur. Mae ein cenhadaeth yn cynnwys ysbrydoli ac ymgysylltu ag unigolion i gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd drwy warchod, adfer a chreu cynefinoedd o goetiroedd hollbwysig.

Y RÔL
  • Dyma gyfle cyffrous wrth i ni chwilio am Reolwr Polisi ac Eiriolaeth a fydd yn gyfrifol am ddatblygu ac arwain y gwaith o gyflawni rhaglen eiriolaeth ac ymgyrchu Coed Cadw yng Nghymru.
  • Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu perthnasoedd ar draws cynulleidfaoedd polisi eang i sicrhau canlyniadau polisi allweddol yn unol â nodau ac amcanion Coed Cadw.
  • Yn gyfrifol am sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn dilyn ac wedi dilyn strategaethau dylanwadu integredig â ffocws i gyflawni ein nodau polisi cyhoeddus.
  • Arwain y tîm Polisi ac Eiriolaeth yng Nghymru tra'n integreiddio ein gwaith polisi ac ymgyrchu ar draws y tîm ehangach yng Nghymru, gan roi arweiniad clir, ysbrydoli ein gweithwyr a meithrin galluoedd a sgiliau, cynnal a hyrwyddo gwerthoedd ac ymddygiadau'r Ymddiriedolaeth.
  • Ymroi i fonitro, casglu gwybodaeth, deall a dadansoddi meysydd perthnasol o bolisi a gwleidyddiaeth Cymru, gan weithredu ar gyfleoedd allweddol. Cydweithio â chydweithwyr yn y DU i sicrhau bod ein gwaith polisi ac eiriolaeth yn cael ei gefnogi ac yn gyson ar draws y pedair gwlad a sicrhau bod y negeseuon ymgyrchu yn gyson â strategaethau a chynlluniau cyfathrebu a dylanwadu ehangach yr Ymddiriedolaeth.
  • Mae hon yn rôl hybrid gyda theithio i'r swyddfa yng Nghaerdydd a ledled y DU yn ôl yr angen.
YR YMGEISYDD
  • Mae hon yn rôl allweddol yn ein tîm yng Nghymru, ac er mwyn i ymgeiswyr sefyll allan, rydyn ni’n chwilio am brofiad o weithio o fewn cyd-destun polisi ac eiriolaeth neu wleidyddol.
  • Profiad o lunio a gweithredu polisïau ac eiriolaeth neu strategaethau gwleidyddol yn ddelfrydol yn y sector amgylcheddol/gwirfoddol, gan ddarparu mewnbwn a chyngor polisi technegol.
  • Gwybodaeth am Lywodraeth Cymru a’r Senedd gyda dealltwriaeth gref o bolisïau amgylcheddol, cadwraeth a materion rheoli tir ar hyn o bryd. Bydd gennych ymwybyddiaeth o faterion cyfoes a phrosesau drwy ddeddfwriaeth, polisïau a grantiau yn y cyd-destun Cymreig.
  • Hyderus wrth feithrin a datblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allanol a mewnol, sy'n gallu dylanwadu ar wahanol gynulleidfaoedd, i newid agweddau, ymddygiadau a/neu bolisïau rhanddeiliaid allweddol yn llwyddiannus.
  • Sgiliau arwain cryf gyda'r gallu i gydweithio ag ystod amrywiol o dimau a rhanddeiliaid i sicrhau'r datblygiad gorau o ran strategaethau a pholisïau.
  • Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a'r gallu i gyfathrebu mewn ffyrdd effeithiol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
  • Dealltwriaeth o wahanol ysgogiadau a dulliau gweithredu y gellir eu defnyddio'n effeithiol i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
  • Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yng Nghymru a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio ledled Cymru a'r DU.

Mae ein Natur Sefydliadol yn ein galluogi i ddeall yn well beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o Coed Cadw, a’n grymuso i wneud argraff, bob dydd. Rydyn ni eisiau i chi fod yn fodel rôl ar gyfer ein gwerthoedd; ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’, ‘Ffocws’, ‘Archwilio’ a ‘Gwneud iddo Gyfrif’ i sicrhau bod pob un ohonom yn chwarae ein rhan wrth helpu i warchod, adfer a chreu ein coedwigoedd a’n coed.

Buddion a Llesiant: Mae ymuno â'n tîm yn golygu y byddwch yn rhan fawr o fynd i'r afael â materion amgylcheddol a hinsawdd. Rydyn ni’n cymryd gofal da o'n gweithwyr, gan gynnig cymorth a chyfleoedd hyfforddi. Rydyn ni hefyd yn cynnig:

  • Pensiwn Uwch i Gyflogwyr
  • Yswiriant Bywyd
  • Opsiynau Gweithio Hyblyg a Hybrid
  • Gwyliau Blynyddol hael
  • Tâl Rhiant Uwch
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Ymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant: Mae Coed Cadw yn cofleidio amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni eisiau i'n tîm adlewyrchu cymuned amrywiol y DU. Rydyn ni’n cefnogi pobl o bob cefndir i wneud cais, yn enwedig y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cyngor wrth Wneud Cais: Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni holl ofynion y rôl, byddem yn eich annog i wneud cais. Eich brwdfrydedd dros yr amgylchedd a'n gwerthoedd craidd - Tyfu Gyda’n Gilydd, Archwilio, Ffocws a Gwneud iddo Gyfrif – sydd bwysicaf. Rydyn ni hefyd yn cadw manylion personol ein hymgeiswyr wrth y rheolwyr sy’n cyflogi, fel nad ydynt yn gweld eich CV nes bod y rhestr fer wedi'i chwblhau. Gwnewch yn siwr bod eich Datganiad Personol yn dangos yn glir eich profiad a’ch angerdd am y rôl.

Gwnewch gais nawr: Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth a thyfu gyda ni, anfonwch eich cais heddiw. Efallai y byddwn yn cau'r swydd yn gynnar os cawn lawer o geisiadau, felly mae'n syniad da gwneud cais yn fuan. Edrychwn ymlaen at glywed wrthych a chydweithio i gael effaith bositif ar ein planed.