Climate Change Assistant Project Officer / Swyddog Prosiect Cynorthwyol Newid Hinsawdd
Are you driven to tackle climate change through decarbonisation?
If so, this is a fantastic opportunity for you to make a real difference in a role where you will be supported to do the right thing.
Newport City Council is looking for someone who can help deliver against our ambitious climate change programme with the vision of becoming a carbon neutral organisation by 2030 and supporting the City to Net Zero Carbon by 2050.
We need someone who is motivated to make a difference, can demonstrate the ability to integrate quickly into the team, lead others and who has the determination to see projects through to completion.
The post holder will be part of a growing multi-skilled Climate Change team that is responsible for our Organisational Climate Change Plan and our Local Area Energy Plan for the city.
Main duties of the role
Reporting into the Climate Change Project Officer, the successful candidate will:
- Manage the delivery of the Net Zero Newport Decarbonisation Programme, which supports local businesses and community groups with grant funding for the installation of low carbon infrastructure
- Support local businesses, community groups and our supply chain to decarbonise by providing advice and helping with the production of decarbonisation plans
- Support the decarbonisation of our procurement by advising other areas within the council on how they can embed decarbonisation in their procurement activity
- Support the climate change team with the delivery of our wider agenda.
- Work with colleagues and partner organisations to develop and deliver on projects that will deliver projects within agreed time, cost, quality, scope and risk parameters.
About you
The role would suit an individual who is driven to reduce carbon emissions and who has previously worked in an advisory or project support role.
Applicants should be qualified to degree level or equivalent and have experience or knowledge of energy, climate or carbon reduction fields.
Our Organisation
Newport City Council is a leading Local Authority which delivers 870 individual services to our residents. We have an administration that is committed to the climate and nature emergency and a climate change team which is set to grow.
Benefits of working for us include good work-life balance, a 20% employer pension contribution, flexible working (currently mostly home based), shared parental leave, salary sacrifice car leasing scheme, cycle to work and various retail discounts.
Please telephone Laura Waldron (Programme Manager – Climate Change) on 01633 839 837 for an initial informal discussion about this post.
We welcome applications for all our jobs in either Welsh or English. An application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Newport City Council is committed to working towards its workforce being more representative of the population that we serve and particularly welcomes applications from people from minority ethnic communities represented (or living) in the city. Selection will be made on ability and skills to undertake the role.
Newport City Council is not currently supporting applicants with sponsorship for right to work. In applying for a vacancy, applicants should already have the right to work in the UK.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein gwerthoedd – Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd
---
Ydych chi eisiau mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy ddatgarboneiddio?
Os felly, dyma gyfle gwych i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn rôl lle byddwch yn cael eich cefnogi i wneud y peth iawn.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn chwilio am rywun fydd yn gallu parhau i gyflawni ein rhaglen newid hinsawdd uchelgeisiol gyda’r weledigaeth o ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Ddinas i fod yn Sero Net erbyn 2050.
Rydym eisiau rhywun sy'n llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth, sy'n gallu integreiddio'n gyflym, arwain pobl eraill ac sy'n benderfynol o gyflawni prosiectau a’u cwblhau.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm Newid Hinsawdd amlfedrus cynyddol sy'n gyfrifol am ein Cynllun Newid Hinsawdd Sefydliadol a'n Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer y ddinas.
Prif ddyletswyddau'r rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd i'r Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd ac yn:
- Rheoli’r gwaith o gyflawni Rhaglen Ddatgarboneiddio Sero Net Casnewydd, sy’n cefnogi busnesau lleol gyda chyllid grant ar gyfer gosod seilwaith carbon isel
- Cefnogi busnesau lleol a'n cadwyn gyflenwi i ddatgarboneiddio trwy ddarparu cyngor a helpu gyda chynhyrchu cynlluniau datgarboneiddio
- Cefnogi datgarboneiddio ein caffael trwy gynghori ardaloedd eraill o fewn y cyngor ar sut y gallant ymgorffori datgarboneiddio yn eu gweithgaredd caffael
- Cefnogi'r tîm newid hinsawdd i gyflawni ein hagenda ehangach.
- Gweithio gyda chydweithwyr a sefydliadau partner i ddatblygu a chyflawni prosiectau a fydd yn cynhyrchu'r canlyniadau gofynnol gyda'r goddefiannau penodedig o ran amser, cost, ansawdd, cwmpas a risg.
Amdanoch chi
Byddai'r rôl yn addas ar gyfer rhywun â chymhelliant i arbed carbon ac sydd wedi gweithio mewn rôl cynghori neu gefnogi prosiect yn flaenorol.
Dylai ymgeiswyr fod â gradd neu gyfwerth a phrofiad neu wybodaeth o feysydd ynni, hinsawdd neu leihau carbon.
Ein Sefydliad.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn Awdurdod Lleol blaenllaw sy'n darparu 870 o wasanaethau unigol i'n trigolion. Mae gennym weinyddiaeth sydd wedi ymrwymo i'r argyfwng hinsawdd a natur a thîm newid hinsawdd sy’n tyfu.
Mae buddion gweithio i ni yn cynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, cyfraniad pensiwn cyflogwr o 20%, gweithio hyblyg (cartref yn bennaf ar hyn o bryd), absenoldeb rhiant a rennir, cynllun prydlesu car aberthu cyflog, beicio i’r gwaith a gostyngiadau manwerthu amrywiol.
Ffoniwch Laura Waldron (Rheolwr Rhaglen – Newid Hinsawdd) ar 01633 839 837 i gael sgwrs anffurfiol gychwynnol am y swydd hon.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd